CWÎR: Creative Community (November)
About this Event
Building on the foundations of GORWEL, we’re excited to launch CWÎR: Creative Community, a new collaboration between Creative Cardiff and Lone Worlds. Funded by Arts Council of Wales, CWÎR offers LGBTQIA+ creatives a queer-led, safe and welcoming space to connect, share and collaborate.
Each event will spotlight an LGBTQIA+ creative working in a different area of the industry, leading practical and hands-on sessions designed to share knowledge, nurture ideas and encourage meaningful networking and collaboration.
CWÎR aims to build lasting professional and personal connections across Cardiff’s creative sector, increasing visibility and creating opportunities for queer-led, grassroots and community-driven initiatives.
October's session: Creative Storytelling: How to tell stories through multidisciplinary practice with Joshua Jones
Joshua Jones will give a talk on multidisciplinary practice, and how artists can use the means at their disposal to make art and tell their stories. Joshua will give insight into writing, photography & image-making, bookmaking, and his practice as an editor and publisher, and how an artist's most important tool is their instinct. He will then deliver a workshop bringing together images and writing, using our camera rolls as a place of contact to discuss personal archives, memory, and storytelling.
Joshua Jones (he/him) is a writer and artist from Llanelli, South Wales. He is a Contributing Editor of Folding Rock and co-founder/editor of Dyddiau Du Press. His debut work of fiction, Local Fires (Parthian, 2023) was shortlisted for the Dylan Thomas Prize & the Polari First Book Prize in 2024. His work across fiction, non-fiction, poetry, photography, moving image and bookarts explores lived experiences of growing up Welsh and working-class, queer, neurodivergent and disabled.
He has been published & anthologised by: VERVE, Seren Books, Poetry Wales, Scary Boots, Little Scorpion Press, Die Quieter Please, Arachne Press, Broken Sleep Books, and many more besides. He has produced arts writing for exhibitions, arts publications and galleries, and has held residencies in Cardiff and Paris. He is currently working on a novel and volunteers at a community garden, learning how to work the land.
____
Gan adeiladu ar sylfeini GORWEL, rydym yn gyffrous i lansio CWÎR: Cymuned Greadigol, cydweithrediad newydd rhwng Caerdydd Creadigol a Lone Worlds. Wedi'i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae CWÎR yn cynnig lle diogel a chroesawgar dan arweiniad queer i greadigwyr LGBTQIA+ gysylltu, rhannu a chydweithio.
Bydd pob digwyddiad yn tynnu sylw at greadigwr LGBTQIA+ sy'n gweithio mewn maes gwahanol o'r diwydiant, gan arwain sesiynau ymarferol a chymhellol wedi'u cynllunio i rannu gwybodaeth, meithrin syniadau ac annog rhwydweithio a chydweithio ystyrlon.
Nod CWÎR yw meithrin cysylltiadau proffesiynol a phersonol parhaol ar draws sector creadigol Caerdydd, gan gynyddu gwelededd a chreu cyfleoedd ar gyfer mentrau dan arweiniad pobl hoyw, ar lawr gwlad ac yn y gymuned.
Sesiwn mis Hydref: Creadigrwydd wrth Adrodd Straeon: Sut i greu storïau trwy ymarfer aml-ddisgyblaethol gyda Joshua Jones
Bydd Joshua Jones yn rhoi sgwrs am ymarfer amlddisgyblaethol, a sut y gall artistiaid ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael iddynt i greu celf ac adrodd eu straeon. Bydd Joshua yn cynnig cipolwg ar ysgrifennu, ffotograffiaeth a chreu delweddau, gwneud llyfrau, a'i waith fel golygydd a chyhoeddwr. Bydd hefyd yn trafod sut mai'r offeryn pwysicaf sydd gan artist yw ei reddf. Yn dilyn hynny, bydd yn cynnal gweithdy sy'n cyfuno delweddau ac ysgrifennu, gan ddefnyddio'r lluniau ar ein ffonau symudol fel man cychwyn i drafod archifau personol, cof, a'r grefft o adrodd straeon.
Mae Joshua Jones (ef/fo) yn awdur ac yn artist o Lanelli, De Cymru. Mae'n Olygydd Cyfrannol i *Folding Rock* ac yn gyd-sylfaenydd/golygydd *Dyddiau Du Press*. Cafodd ei waith ffuglen cyntaf, *Local Fires* (Parthian, 2023), ei gynnwys ar restr fer Gwobr Dylan Thomas a Gwobr *Polari First Book* yn 2024. Mae ei waith – sy'n rhychwantu ffuglen, ffeithiol, barddoniaeth, ffotograffiaeth, delweddau symudol a chelfyddyd llyfrau – yn archwilio profiadau bywyd o dyfu i fyny yng Nghymru fel aelod o'r dosbarth gweithiol, yn berson *queer*, yn niwrowahanol ac yn anabl.
Mae ei waith wedi'i gyhoeddi a'i gynnwys mewn blodeu-gasgliadau gan: VERVE, Seren Books, *Poetry Wales*, Scary Boots, Little Scorpion Press, Die Quieter Please, Arachne Press, Broken Sleep Books, a llawer mwy. Mae wedi ysgrifennu am gelf ar gyfer arddangosfeydd, cyhoeddiadau celf ac orielau, ac mae wedi ymgymryd â chyfnodau preswyl yng Nghaerdydd a Pharis. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio ar nofel ac yn gwirfoddoli mewn gardd gymunedol, lle mae'n dysgu sut i drin y tir.
Where is it happening?
Event Location & Nearby Stays:
GBP 0.00



















