Cymorth Cyntaf Brys yn y Gweithle / Emergency First Aid at Work
Schedule
Mon Jan 27 2025 at 09:30 am to 04:30 pm
UTC+00:00Location
Rhyl Youth Centre | Rhyl, WA
About this Event
Cymorth Cyntaf Brys gyda Sir Ddinbych Yn Gweithio
Cwrs hyfforddi am ddim i breswylwyr Sir Ddinbych.
Bydd pob cyfranogwr llwyddiannus yn cael tystysgrif yn cadarnhau eu bod wedi cwblhau’r cwrs.
Disgrifiad: Mae’r cwrs undydd hwn wedi ei ddylunio i bobl sydd eisiau cael hyfforddiant a chymhwyster mewn cymorth cyntaf brys. Mae’n arbennig o addas ar gyfer swyddogion cymorth cyntaf a enwebwyd mewn amgylchedd gwaith llai, â risg isel, megis swyddfeydd bach, lleoliadau lletygarwch a manwerthu i enwi rhai.
Beth i’w Ddisgwyl: Byddwn yn eich addysgu ynglŷn â’r gyfraith sy’n berthnasol i gymorth cyntaf, gan eich gwneud yn gyfarwydd â Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf), cyn symud ymlaen i’ch addysgu sut i reoli digwyddiad a thrin gwaedu, llosgiadau, tagu a sioc. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddelio gydag unigolyn anymwybodol, gan gynnwys sut i’w rhoi yn yr ystum adfer a sut i roi CPR. Mae’r cwrs yn ymdrin â phrotocolau cymorth cyntaf i oedolion yn unig.
Pwy yw Sir Ddinbych yn Gweithio? Nod gwasanaeth Sir Ddinbych yn Gweithio Cyngor Sir Ddinbych yw cydlynu’r math o gymorth sy’n helpu pobl i mewn i waith drwy chwalu rhwystrau. Gan weithio gyda busnesau a sefydliadau lleol, mae rhaglen Sir Ddinbych yn Gweithio wedi ymrwymo i gefnogi pobl sy’n byw yn Sir Ddinbych i gael gwaith a/neu i uwchsgilio gyda hyfforddiant am ddim.
Emergency First Aid at Work with Working Denbighshire
Free training course for residents of Denbighshire.
All successful participants will receive a certificate confirming that they have completed the course.
Description: This one-day course is designed for people who want to receive training and a qualification in emergency first aid. It is especially suited for nominated first aiders in smaller, low risk working environments, such as small offices, hospitality locations and retail to name a few.
What to Expect: We will teach you about the law relevant to first aid, making you familiar with Health and Safety (First Aid) Regulations, before moving on to teach you about how to manage an incident and treat bleeding, burns, choking and shock. You will also learn about how to deal with an unconscious casualty, including how to put them into the recovery position and how to give CPR. The course covers first aid protocols for adult casualties only.
Who is Working Denbighshire? Denbighshire County Council’s Working Denbighshire service aims to coordinate support that helps people into work by removing barriers. Working with local businesses and organisations, the Working Denbighshire programme is committed to supporting people who live in Denbighshire to get into the world of work and/or further their skills with free training.
Where is it happening?
Rhyl Youth Centre, East Parade, Rhyl, United KingdomEvent Location & Nearby Stays:
USD 0.00