Tân a llifogydd: Taith Dywysedig – Waun Fignen-felen – Fire and flood: Walk
About this Event
Tân a llifogydd: Taith Dywysedig i Waun Fignen-felen
Dydd Sul 11 Hydref
10yb – 4yp
Parcio cerddwyr Ogofâu Dan yr Ogof, SA9 1GJ
Mae Waun Fignen-felen yn cynnig lle diddorol i archwilio pwysigrwydd ail-wlychu ac adfer ein mawndiroedd ar yr ucheldir. Yma, mae cors fawn ucheldirol yn eistedd uwchben system helaeth o ogofâu o fewn tirwedd galchfaen, gan greu perthynas agos rhwng dŵr, mawn a'r ddaeareg o dan ein traed.
I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol UNESCO ar gyfer Lleihau Perygl Trychinebau, bydd Swyddog Datblygu Geoparc y Fforest Fawr a'r daearegwr, Alan Bowring, yn ein harwain ar daith gerdded i ystyried sut i ddiogelu ein mawndiroedd wrth i’r hinsawdd newid.
Mae cors fawn iach yn gallu gwrthsefyll tân ac mae’n gwneud llifogydd i lawr yr afon yn llai tebygol – mae'n werth gwarchod y mawn! Dewch i weld sut mae'r cyfan yn cyd-fynd â'i gilydd.
--
Mae hon yn daith gerdded gymedrol ar gyflymder cyfeillgar. Mae’r daith yn 8.5km/5.5 milltir o hyd ac mae’n cynnwys esgyniad o 350m/1150ft. Cyfarfod ym maes parcio cerddwyr Ogofâu Dan yr Ogof* am 10.00am. (OS SN 842163) (what3words ///approve.walked.camp).
Bydd y wâc yn cychwyn yn brydlon am 10:00.
*Gadewch yr A4067 wrth y fynedfa i'r ogofâu a throwch i'r dde ar ddiwedd y ‘ffordd ddeuol’ – parciwch ym mhen pellaf (gogledd) y safle.
Sicrhewch eich bod yn gwisgo dillad ac esgidiau addas fydd yn eich gwarchod rhag yr elfennau. Mae’n bosib y bydd y llwybr yn cynnwys tir anwastad. Mae'r daith gerdded hon i Waun Fignen-felen yn addas ar gyfer teuluoedd â phlant hŷn (8+). Mae’n rhaid bod plant dan un ar bymtheg mlwydd oed yn dod gydag oedolyn. I helpu pawb i fwynhau'r daith gerdded, gofynnwn i gŵn gael eu gadael gartref. Mae croeso i gŵn cymorth, wrth gwrs.
Petai tywydd garw, ni fydd y daith gerdded yn mynd yn ei blaen a byddem yn rhoi rhybudd priodol.
Os ydych wedi cofrestru ar gyfer un o'n teithiau cerdded, rhowch eich gwybodaeth feddygol a'ch manylion cyswllt brys i ni drwy'r Ffurflen ddiogel hon: https://forms.office.com/e/YFPWMruYqG
Penwyllt – A community shaped by rock
Sunday 11 October
10am – 4pm
Dan yr Ogof Showcaves car park, SA9 1GJ
Waun Fignen-felen offers a fascinating place to explore the importance of re-wetting and restoring our upland peatlands. Here, an upland peat bog sits above an extensive cave system within a limestone landscape, creating a close relationship between water, peat and the geology beneath our feet.
In celebration of UNESCO’s International Day for Disaster Risk Reduction, Fforest Fawr Geopark’s Development Officer and geologist Alan Bowring, will lead us on walk to consider how we protect our peatlands in the face of a changing climate.
A healthy peat bog is resilient to fire and makes downstream flooding less likely – it pays to protect the peat! Come along to see how it all fits together.
--
This is a moderately graded walk at a friendly pace. The distance is 8.5km/5.5 miles and involves 350m/1150ft ascent. Meet at Dan yr Ogof Showcaves walkers’ parking area* at 10.00am. (OS grid ref SN 842163) (what3words///approve.walked.camp).
The walk will start promptly at 10:00.
*Turn off A4067 into entrance to showcaves and turn right at the end of the ‘dual carriageway’ - park at far (north) end.
Please ensure that you wear adequate clothing and footwear to protect you from the elements. The route includes some uneven terrain. This walk to Waun Fignen-felen is suitable for families with older children (8+). Children under 16 must be accompanied by an adult. To help everyone enjoy the walk, we ask that dogs are left at home. Assistance dogs are, of course, welcome.
In case of severe weather, we will cancel this walk with appropriate notice.
If you registered for one of our walks, please provide us with your medical information and emergency contact details via this secure Form: https://forms.office.com/e/YFPWMruYqG
Where is it happening?
Event Location & Nearby Stays:
GBP 6.13











