Riverside Winter Fair, Haverfordwest
Schedule
Sat Nov 30 2024 at 11:00 am
UTC+00:00Location
Haverfordwest Town Center | Haverfordwest, WA
Advertisement
Mark your calendars for a vibrant celebration of history, music, and community spirit at the inaugural Riverside Winter Fair in Haverfordwest, Pembrokeshire.The Riverside Winter Fair promises to be a fun-filled day for all ages.
This free community event, funded by Pembrokeshire County Council via UK Government, aims to create a magical winter festival atmosphere by merging history, music, food, games and local spirit.
The centrepiece of the Riverside Winter Fair will be the culmination of a unique community project – the performance of a brand-new Cantata titled "The Children of St Saviours." Composed by Alex McGee, with help from students at Haverfordwest High, will tell the captivating story of Haverfordwest's rich history, drawing inspiration from recent archaeological discoveries at Western Quayside.
The Riverside Winter Fair promises a day filled with entertainment for the whole family. Pure West Radio will be broadcasting live, capturing the excitement and sharing local voices with the airwaves.
Witness a banner procession led by the South Wales Police Brass Band, featuring banners created by local primary school children during workshops this autumn
Downloadable flag templates and ideas will be available on the event website for any child who wants to create their own flag and participate in the parade.
Fair Play, a community board game cafe in Haverfordwest, will be hosting a pop-up event. So whether you're a seasoned gamer or just starting out, Fair Play will offer a welcoming space to enjoy board games and connect with others.
Artists Neil Musson and Jono Retallick will be launching their model hot air balloon, a floating gallery and homage to the people of Haverfordwest. The project has been inspired by embroidered tablecloths in the collection of the Haverfordwest Town Museum that contain the signatures of Haverfordwest residents from 1914 onwards. The artists spent a week in Haverfordwest inviting people to add their own name to appear on the balloon.
Haverhub will be hosting a Winter Craft and Makers Market and Castle Square will transform into a bustling street food market curated by Haverfordwest's Business Circle.
As the day draws to a close, the annual Christmas lights will be switched on by the Town Council and Riverside Shopping Centre.
www.riversidewinterfair.co.uk
e: [email protected]
+++++++++++++++++++++
Rhowch nodyn yn eich calendr – bydd Ffair Aeaf gyntaf Glan-yr-afon yn Hwlffordd, Sir Benfro, yn ddigwyddiad cyffrous sy’n dathlu hanes, cerddoriaeth ac ysbryd cymunedol yr ardal.
Bydd Ffair Aeaf Glan-yr-afon yn ddiwrnod llawn hwyl i bawb o bob oed.
Digwyddiad cymunedol rhad ac am ddim yw hwn, sydd wedi’i ariannu gan Gyngor Sir Benfro drwy Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Ei nod yw creu awyrgylch gŵyl aeaf hudolus drwy gyfuno hanes, cerddoriaeth, bwyd, gemau ac ysbryd cymunedol.
Canolbwynt Ffair Aeaf Glan-yr-afon fydd penllanw prosiect cymunedol unigryw – sef perfformio Cantata newydd sbon o’r enw “The Children of St Saviours.” A honno wedi’i chyfansoddi gan Alex McGee, gyda chymorth myfyrwyr yn Ysgol Uwchradd Hwlffordd, bydd yn adrodd hanes cyfareddol Hwlffordd, gan ganfod ysbrydoliaeth yn y darganfyddiadau archeolegol diweddar yng Nghei’r Gorllewin.
Mae Ffair Aeaf Glan-yr-afon yn addo bod yn ddiwrnod llawn adloniant i’r teulu i gyd. Bydd Pure West Radio yn darlledu oddi yno’n fyw, gan roi blas o’r cyffro a rhannu lleisiau lleol ar y tonfeddi.
Bydd gorymdaith faneri yn cael ei harwain gan Fand Pres Heddlu De Cymru, a phlant ysgolion cynradd lleol fydd wedi creu’r baneri hynny yn ystod gweithdai yr hydref hwn.
I’r plant sy’n awyddus i greu eu baneri eu hunain a chymryd rhan yn y parêd, bydd templedi a syniadau ar gyfer y baneri ar gael i’w lawrlwytho ar wefan y digwyddiad.
Bydd Fair Play, caffi gemau bwrdd cymunedol yn Hwlffordd, yn trefnu digwyddiad pop-yp. Felly os ydych chi’n chwaraewr gemau brwd, neu’n rhywun sy’n newydd i’r byd hwnnw, bydd croeso cynnes yn Fair Play i fwynhau gemau bwrdd a chysylltu ag eraill.
Bydd yr artistiaid Neil Musson a Jono Retallick yn lansio eu model o falŵn aer poeth, sef oriel sy’n arnofio a honno’n deyrnged i bobl Hwlffordd. Mae’r prosiect wedi cael ei ysbrydoli gan lieiniau bwrdd brodiog sydd yng nghasgliad Amgueddfa Tref Hwlffordd, a’r rheini’n cynnwys llofnodion trigolion Hwlffordd o 1914 ymlaen. Treuliodd yr artistiaid wythnos yn Hwlffordd yn gwahodd pobl i ychwanegu eu henwau eu hunain i ymddangos ar y balŵn.
Bydd HaverHub yn cynnal Marchnad Aeaf y Crefftwyr a’r Gwneuthurwyr yn Sgwâr y Castell, a fydd yn troi wedyn yn farchnad bwyd stryd brysur o dan ofal Cylch Busnes Hwlffordd.
Wrth i’r diwrnod ddirwyn i ben, bydd y goleuadau Nadolig yn cael eu cynnau gan Gyngor y Dref a Chanolfan Siopa Glan-yr-afon.
Ymunwch â’r dathlu!
www.riversidewinterfair.co.uk
e: [email protected]
Advertisement
Where is it happening?
Haverfordwest Town Center, Haverfordwest, United KingdomEvent Location & Nearby Stays: