Hyfforddiant Cydraddoldeb Anabledd | Disability Equality Training
About this Event
Mae CULT Cymru yn rhaglen sgiliau a gefnogir trwy Cronfa Ddysgu Undeb Cymru Llywodraeth Cymru.
CULT Cymru is a skills programme supported through the Welsh Government's Union Wales Learning Fund.
Bydd y cwrs hwn yn Saesneg/ Language of session - English**
[ Please scroll down for the full details of this course in English]
Gwneud y Diwydiannau Creadigol yn Hygyrch: Hyfforddiant Cydraddoldeb Anabledd
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Sut allwn ni wneud y diwydiannau creadigol yn fwy hygyrch a chynhwysol i bobl Fyddar, anabl a niwroamrywiol?
Bydd y sesiwn ymarferol tair awr hon yn rhoi'r wybodaeth a'r offer i chi greu amgylcheddau gwaith mwy cynhwysol. Gan ddefnyddio'r model cymdeithasol o anabledd fel man cychwyn, byddwn yn edrych ar ddeddfwriaeth cydraddoldeb anabledd, iaith a dulliau cynhwysol, a sut i adnabod a chael gwared ar y rhwystrau sy'n allgáu pobl anabl.
Byddwn yn edrych ar y cymorth a'r adnoddau sydd ar gael i bobl greadigol Fyddar, anabl a niwroamrywiol - gan gynnwys llawrydwyr - a'r rheini sy'n eu cyflogi neu'n comisiynu eu gwaith. Byddwn hefyd yn archwilio pwysigrwydd cynghreiriaeth (allyship) a'r rôl ymarferol y gall pawb ei chwarae i wella mynediad.
Byddwch yn gadael gydag adnoddau defnyddiol a chynllun gweithredu clir ar gyfer gwneud newidiadau cadarnhaol, cyraeddadwy yn eich sefydliad neu'ch arfer gwaith.
Mae'r hyfforddiant hwn yn berthnasol i sefydliadau ac unigolion creadigol fel ei gilydd.
Beth fyddwn ni'n ei drafod:
- Y model cymdeithasol o anabledd, a pham mae'n bwysig ar gyfer cynhwysiant
- Y Ddeddf Cydraddoldeb a deddfwriaeth cydraddoldeb anabledd
- Iaith a dull – naratifau ynghylch anabledd, hawliau a chynhwysiant
- Adnabod a chael gwared ar y rhwystrau i hygyrchedd
- Cymorth sydd ar gael i bobl Fyddar ac anabl, a'r rheini sy'n eu cyflogi neu'n comisiynu eu gwaith – gan gynnwys llawrydwyr, a sefydliadau allweddol yn y diwydiant
- Cynghreiriaeth, a'r rôl ymarferol y gall pawb ei chwarae
- Llunio'ch cynllun gweithredu eich hun
- Adnoddau i fynd â nhw gyda chi
Erbyn diwedd y sesiwn, byddwch yn:
- Deall sut mae'r model cymdeithasol o anabledd yn sail i fynediad a chynhwysiant
- Deall y Ddeddf Cydraddoldeb a gofynion newydd Deddf Hawliau Cyflogaeth ynghylch cydraddoldeb anabledd, a sut mae'r rhain yn berthnasol i weithwyr, gweithwyr achlysurol a llawrydwyr
- Deall y naratifau a'r iaith ynghylch anabledd, hawliau a chynhwysiant, a pham mae hyn yn bwysig
- Gallu adnabod y rhwystrau sy'n allgáu pobl anabl, a gwybod ble i gael cymorth
- Gadael gyda chynllun gweithredu personol neu sefydliadol
/
Making the Creative Industries Accessible: Disability Equality Training
About this event
How can we make the creative industries more accessible and inclusive for Deaf, disabled and neurodivergent people?
This practical three-hour session will give you the knowledge and tools to create more inclusive working environments. Using the social model of disability as our starting point, we'll explore disability equality legislation, inclusive language and approaches, and how to recognise and remove the barriers that exclude disabled people.
We'll look at the support and resources available to Deaf, disabled and neurodivergent creatives - including freelancers - and those employing or commissioning them. We'll also explore the importance of allyship and the practical role everyone can play in improving access.
You'll leave with useful resources and a clear action plan for making positive, achievable changes in your organisation or working practice.
This training is relevant to organisations and individual creatives alike.
What we'll cover:
- The social model of disability, and why it matters for inclusion
- The Equality Act and disability equality legislation
- Language and approach - narratives around disability, rights and inclusion
- Identifying and breaking down the barriers to accessibility
- Support available for Deaf and disabled people, and those employing or commissioning them - including freelancers, and key industry organisations
- Allyship, and the practical role everyone can play
- Building your own action plan
- Resources to take away
By the end of the session, you'll:
- Understand how the social model of disability underpins access and inclusion
- Understand the Equality Act and the new requirements under the Employment Rights Act on disability equality, and how these apply to employees, casuals and freelancers
- Understand the narratives and language around disability, rights and inclusion, and why this matters
- Be able to identify the barriers that exclude disabled people, and know where to find support
- Leave with a personal or organisational action plan
Tiwtor - Natasha Hirst
Mae Natasha Hirst yn ffotonewyddiadurwr a chreadigydd Byddar llawrydd gyda dros 25 mlynedd o brofiad fel actifydd anabledd ac undebwr llafur.
Tutor - Natasha Hirst
Natasha Hirst is a Deaf freelance photojournalist and creative with over 25 years' experience as a disability activist and trade unionist.
CULT CYMRU
Mae gweithdai CULT Cymru yn cael eu darparu mewn amgylchedd cyfeillgar ac anfygythiol ble bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i ofyn cwestiynau a chodi materion yn ystod y dydd.
CULT Cymru workshops are delivered in a friendly and non-threatening environment where participants will have the opportunity to ask questions and raise issues during the day.
Polisi Canslo ac Ad-daliadau:
Bydd ad-daliad llawn yn cael ei rhoi i gynrychiolwyr sy’n canslo o leiaf bythefnos cyn y digwyddiad. O fewn y bythefnos cyn y digwyddiad, oni bai ein bod ni’n gallu dod o hyd i rywun arall i gymryd eich lle, ni fyddem yn gallu rhoi ad-daliad. Gadewch i ni wybod cyn gynted â phosib os na fyddwch yn gallu mynychu.
Cancellation and Refunds Policy
A full refund will be issued to delegates who cancel at least 2 weeks prior to the event. Delegates who cancel within the 2 week period will not be eligible for a refund unless we are able to find someone else to take their place. Please let us know as soon as possible if you find you're no longer able to attend the workshop.
Diogelu Data /Data Protection
Darllenwch ein Polisi Preifarwydd yma
Read our Privacy Statement here
Where is it happening?
Event Location & Nearby Stays:
GBP 5.00 to GBP 10.00



















