Cydnabod dy sgiliau, yng nghwmni Angharad Harding
Schedule
Wed Nov 06 2024 at 09:30 am to 11:30 am
UTC+00:00Location
Llety Cynin | Carmarthen, WA
About this Event
English below
Cydnabod dy sgiliau, yng nghwmni Angharad Harding
Yn y camau cynnar o adeiladu busnes, mae deall a defnyddio eich sgiliau allweddol yn hanfodol i lwyddiant. Mae'r digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar helpu i adnabod eich cryfderau a dysgu sut i'w defnyddio'n effeithiol mewn amgylchedd busnes.
Cyfle i rwydweithio yn y Gymraeg gydag unigolion yn y byd busnes. Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael, felly byddant yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.
Dyddiad: Dydd Mercher, 6ed o Dachwedd 2024
Amser: 9:30yb - 11:30yb
Lleoliad: Llety Cynin, Sanclêr
Mae'r sesiynau yma yn cael ei ariannu drwy brosiect Llwyddo'n Lleol sy'n rhan o Raglen ARFOR. Mae ARFOR yn rhaglen sy’n cael ei ariannu drwy Llywodraeth Cymru drwy’r cytundeb cydweithredol a Phlaid Cymru. Mae’n raglen ar y cyd gan Gynghorau Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn sy'n edrych i ddefnyddio mentergarwch a datblygu'r economi i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg a, thrwy hynny, cynnal yr iaith.
Un o brosiectau Rhaglen ARFOR yw Llwyddo’n Lleol 2050. Gydag allfudo teuluoedd a phobl ifanc yn cael ei gydnabod fel un o’r prif resymau am ddirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y cadarnleoedd, nod Llwyddo’n Lleol 2050 yw darbwyllo pobl ifanc a theuluoedd ifanc sydd mewn peryg o adael neu sydd eisoes wedi ymadael bod modd cael dyfodol disglair, gyda swydd dda o fewn maes cyffrous, yn eu cymunedau cynhenid. Mae prosiect Llwyddo’n Lleol 2050 yn cael ei weinyddu ar y cyd gan Mentera a Menter Môn.
Reconising your skills, with Angharad Harding
In the early stages of building a business, understanding and using your key skills is essential to success. This event focuses on helping you identify your strengths and learn how to use them effectively in a business environment.
An opportunity to network in the Welsh language with individuals in the business world. There are limited spaces available, therefore tickets will be allocated on a first come, first served basis.
Date: Wednesday, the 6th of November 2024
Time: 9:30am - 11:30am
Location: Llety Cynin, St Clears
These sessions are funded through the Llwyddo'n Lleol 2050 project which is part of the ARFOR Programme. The ARFOR programme is funded through the Welsh Government’s co-operation agreement with Plaid Cymru. ARFOR is a joint venture by Carmarthenshire, Ceredigion, Gwynedd and Anglesey Councils which seeks to use entrepreneurship and economic development to support the heartlands of the Welsh language and, thus, maintain the language.
One of the ARFOR programme projects is Llwyddo’n Lleol 2050. With out-migration of families and young people being recognised as one of the main reasons for a decline in the number of Welsh speakers, Llwyddo’n Lleol aims to persuade those who are most likely to leave, or who have already left, that they can have a bright future and a good job in an exciting field of work within their local communities. The Llwyddo’n Lleol 2050 project is being jointly delivered by Mentera and Menter Môn.
Where is it happening?
Llety Cynin, St Clears, Carmarthen, United KingdomEvent Location & Nearby Stays:
USD 0.00