Sesiwn creu a chrefft ar thema hydref a chalan Gaeaf gyda Y Pethau Bychain
Schedule
Wed Oct 30 2024 at 11:00 am to 01:00 pm
UTC+00:00Location
STORIEL | Bangor, WA
About this Event
Cwmni bach wedi'i ffurfio gan ddwy addysgwr sy'n angerddol am gelf a chrefft ym myd natur ydy Y Pethau Bychain. Rydym wedi ymrwymo i hybu ac addysgu plant a phobl ifanc am dreftadaeth a diwylliant Cymru drwy weithgareddau creadigol ac addysgol. Mae ein cariad at greu a'n balchder yn hanes Cymru yn ysbrydoli ein gwaith.
Rydym yn gyffrous i gyhoeddi ein bod yn dod i Storiel ar gyfer sesiwn grefft arbennig! Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar thema Hydref a Chalan Gaeaf traddodiadol Cymreig. Yn ystod y digwyddiad, byddwn yn adrodd stori'r Gwylltgi ac yn cynnal sesiwn grefftau gan ddefnyddio adnoddau naturiol.
Bydd plant a'u teuluoedd yn cael cyfle i greu crefftau unigryw yn yr ardal allanol, gan ddefnyddio deunyddiau naturiol o fyd natur. Ymunwch â ni am ddiwrnod o hwyl wrth i ni ddathlu'r tymor mewn ffordd draddodiadol a chreadigol."
Where is it happening?
STORIEL, Ffordd Gwynedd, Bangor, United KingdomEvent Location & Nearby Stays: