Rhialtwch Calan Gaeaf
Schedule
Wed, 29 Oct, 2025 at 10:00 am to Thu, 30 Oct, 2025 at 08:00 pm
UTC+00:00Location
Rhondda Heritage Park, the Welsh Mining Experience | Pontypridd, WA
Advertisement
Ym mis Hydref eleni, bydd Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn trawsnewid yn lle llawn hwyl i deuluoedd wrth i'r Rhialtwch Calan Gaeaf poblogaidd ddychwelyd unwaith eto! Wedi'i leoli yng nghanol Trehafod, mae'r atyniad twristiaid poblogaidd yn paratoi ar gyfer dau ddiwrnod o gyffro brawychus a chwerthin arswydus.Atyniadau newydd yn 2025! Mae'r cyffro hyd yn oed yn fwy eleni, gyda sesiynau cyfnos newydd sbon yn dod â pherfformwyr tân a pherfformwyr eraill wrth i'r syrcas arswydus gyrraedd!
Mae tocyn pob plentyn yn cynnwys 7 profiad arswydus:
Pigo Pwmpen o'r Bwmpenfa: Crwydrwch drwy ein pwmpenfa berffaith i ddewis eich pwmpen eich hun i fynd â hi adref a'i cherfio.
Helfa Calan Gaeaf: Chwiliwch am ysbrydion cudd o amgylch yr amgueddfa, casglwch stampiau, ac enillwch losin...neu lanast!
Sioe Calan Gaeaf: Mwynhewch berfformiad newydd sbon yn llawn hwyl arswydus.
Crefftau Codi Ofn: Creu celf ryfeddol mewn gweithdai Calan Gaeaf ymarferol.
Mannau Lluniau Arswydus: Tynnwch hunluniau bwganllydyn ein gorsafoedd tynnu lluniau brawychus.
Adfail y Pwll Glo: Mentrwch o dan y ddaear i gwrdd â sgerbydau sy'n canu a mwy! Bydd Patch y Bwmpen yn aros i ddweud helo!
Ffair Hwyl Fang-tastig: Neidiwch ar ddwy reid glasurol i blant - gwych ar gyfer eich angenfilod bach.
Sesiynau cyfnos: Mae ein sesiynau cyfnos newydd sbon yn cynnwys yr holl bethau uchod YN OGYSTAL ag adloniant o'r syrcas arswydus… bydd perfformwyr tân a mwy yno!
Amseroedd
• 10am – 12pm
• 12.30pm – 2.30pm
• 3pm – 5pm
• Sesiwn gyfnos 6pm – 8pm
Prisiau'r Tocynnau
• £10 fesul plentyn sy'n cymryd rhan (mae babanod dan 12 mis oed am ddim)
• £3.50 yr oedolyn
Advertisement
Where is it happening?
Rhondda Heritage Park, the Welsh Mining Experience, Pontypridd, United KingdomEvent Location & Nearby Stays: