POLIR 125 Darlith Gyhoeddus - Public Lecture: Dr Ayesha Omar
Schedule
Thu Nov 21 2024 at 05:00 pm to 06:30 pm
UTC+00:00Location
Cardiff University School of Law and Politics | Cardiff, WA
About this Event
(Sgroliwch i lawr am wybodaeth yn Saesneg.)
(Please scroll down for information in English.)
Eleni mae'r Adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn dathlu 125 o flynyddoedd. Fe'i sefydlwyd yn ystod hydref 1899, y flwyddyn y dechreuodd y Rhyfel Eingl-Boer, pan oedd 240 ceiniog mewn punt. Mae hyn yn golygu ei bod yn un o'r cyntaf i'w creu mewn prifysgol siartredig yn y DU, ac roedd yn deillio o fenter gan y dyneiddwyr a'r diwygwyr cymdeithasol J S a Millicent Mackenzie. O'r cychwyn cyntaf, roedd gan yr Adran Gwyddor Wleidyddol, fel yr oedd bryd hynny, berthynas agos â'r gyfraith a chysylltiadau rhyngwladol. Roedd y maes llafur yn cynnwys y broses ddeddfwriaethol; cyfraith a moesoldeb; cyfraith ryngwladol; a meddwl gwleidyddol, ac mae pob un o'r rhain, ynghyd â llawer mwy, yn dal yn ganolog yn y cwricwlwm. Yn ystod blwyddyn academaidd 2024-2025, bydd Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn dathlu 125 mlynedd gyda chyfres o weithgareddau, gan gynnwys darlithoedd cyhoeddus, arddangosfeydd a diwrnod chwaraeon i fyfyrwyr a staff.
Nodwch y bydd mynediad drwy docyn yn unig.
Dyddiad ac Amser: Dydd Iau 21 Tachwedd (17:00-18:30)
Lleoliad: Darlithfa 0.22, Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Siaradwr: Dr Ayesha Omar – Ysgol Astudiaethau Dwyreiniol ac Affricanaidd (SOAS), Prifysgol Llundain
Teitl: Ymgysylltiad Rhyddfrydol Hanes Deallusol Pobl Ddu yn Ne Affrica
Crynodeb:
Mae'r ddarlith yn canolbwyntio ar herio'r naratif poblogaidd bod hanes deallusol pobl ddu yn Ne Affrica yn hollbresennol yn ei driniaeth o syniadau rhyddfrydol. Er bod lle rhyddfrydiaeth yn Ne Affrica gyfoes ôl-apartheid yn ddryslyd a chymhleth a bod ei defnyddioldeb i'r mwyafrif du, economaidd ddi-fraint yn cael ei herio'n aml, roedd mabwysiadu cyfansoddiad democrataidd De Affrica yn 1996, oedd yn amlinellu fframwaith clir iawn ar gyfer democratiaeth ryddfrydol, yn syndod i lawer, oedd yn ystyried bod cenedlaetholdeb du Affricanaidd yn cyfateb â sosialaeth a Marcsaeth. Y dystiolaeth sy’n dangos buddugoliaeth rhyddfrydiaeth yw'r llwybr a ddewiswyd gan Gyngres Genedlaethol Affricanaidd Nelson Mandela, a ildiodd ei hymlyniad i egwyddorion sosialaidd a ffafrio gwleidyddiaeth ryddfrydol-ddemocrataidd. Er bod cyrhaeddiad sefydliadol rhyddfrydiaeth yn eang, a'i hanes yn hir, roedd yn aml yn cynrychioli cred gyffredinolaidd fain oedd yn fregus ac yn gyfyngedig. Hefyd roedd traddodiad deallusol rhyddfrydol De Affrica'n un gwan, na chynhyrchodd amrywiad radical erioed. Roedd ei wendidau'n amlwg i lawer o ddeallusion oedd yn pryderu am ei fod mor agos at wynder, a'i ddiffyg potensial ar gyfer newid radical, cymdeithasol ac egalitaraidd. Eto i gyd, er gwaethaf diffyg apêl radical rhyddfrydiaeth roedd rhai o'r bobl a'r beirniaid mwyaf diddorol a fynegai syniadau rhyddfrydol yn rhan o draddodiad hanes deallusol pobl ddu. Mae'r dimensiwn hwn o ryddfrydiaeth yn Ne Affrica wedi'i ddiystyru, ei esgeuluso neu ei anwybyddu i raddau helaeth.
Bywgraffiad:
Mae Dr Ayesha Omar yn Gymrawd Rhyngwladol yr Academi Brydeinig (2023) yn yr Adran Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol (SOAS) ac yn Uwch-ddarlithydd mewn theori wleidyddol yn yr Adran Astudiaethau Gwleidyddol (Wits). Bydd yn ymgymryd â phrosiect ymchwil tair blynedd yn SOAS ar Ymgysylltiad Rhyddfrydol Hanes Deallusol Pobl Ddu yn Ne Affrica. Bydd ymchwil Ayesha yn cael ei defnyddio wrth ddatblygu prosiect llyfrau helaeth i Wasg Prifysgol Caergrawnt.
Mae Ayesha wedi cyhoeddi amrywiol erthyglau a phenodau mewn llyfrau ar theori wleidyddol gymharol a hanes deallusol De Affrica. Yn ddiweddar cwblhaodd fonograff ar gyfer cyfres elfen Gwasg Prifysgol Caergrawnt mewn Theori Wleidyddol Gymharol: The Pluralistic Frameworks of Ibn Rushd and Abdullahi Ahmed An-Na’im (ar y gweill, Hydref 2024), mae'n gyd-olygydd ar gyfres o ddwy gyfrol Cambridge History of African Political Thought, a'r gyfrol a gyhoeddwyd yn ddiweddar Decolonisation: Revolution and Evolution gyda David Boucher (Gwasg Prifysgol Wits, 2023). Ayesha yw golygydd Theoria: Journal of Social and Political Theory ac ysgrifennydd pwyllgor ymchwil athroniaeth wleidyddol y Gymdeithas Gwyddor Wleidyddol Ryngwladol (IPSA). Mae hi ar fwrdd golygyddol y cyfnodolyn Global Intellectual History (T&F) a Politics (SAGE). Yn 2017 derbyniodd wobr Mail and Guardian 200 Young South African am ei chyfraniadau i addysgu yn y brifysgol.
Cynullydd y Ddarlith Gyhoeddus: Yr Athro David Boucher
Sylwer y bydd ffotograffau'n cael eu cymryd drwy gydol y digwyddiad. Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei recordio, ac mae'n bosibl y bydd yn cael ei roi ar y cyfryngau cymdeithasol a'i ddefnyddio at ddibenion hyrwyddo. Os nad ydych yn dymuno cael eich recordio, siaradwch gydag un o'r trefnwyr cyn i'r digwyddiad ddechrau.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost i [email protected]
~~~~~~~~~~
This year the Department of Politics and International Relations celebrates its 125th anniversary. It was established in the Autumn of 1899, the year that the Anglo Boer War began, and when there were 240 pennies to a £. This makes it one of the first to be created at a chartered university in the uk, and was the result of an initiative by the humanists and social reformers J S and Millicent Mackenzie. From the beginning the Department of Political Science, as it was then named, had a close relationship with law and international relations. The syllabus included the legislative process; law and morality; international law; and, political thought, all of which are still central, in addition to much more, to the curriculum. During the course of the academic year 2024-2025, the School of Law and Politics will be celebrating the 125th anniversary with a series of activities, including public lectures, exhibitions and a staff student sports day.
Please note, admittance will be via ticket only.
Date & Time: Thursday 21st November (17:00-18:30)
Venue: Lecture Theatre 0.22, School of Law and Politics
Speaker: Dr Ayesha Omar – School of Oriental and African Studies (SOAS), University of London
Title: The Liberal Engagements of Black Intellectual History in South Africa
Abstract:
This lecture centres on challenging the popular narrative that black intellectual history in South Africa was ubiquitous in its treatment of liberal ideas. While liberalism in contemporary post-apartheid South Africa has a vexing and complicated place and its utility for a black, economically disenfranchised majority is frequently contested, the 1996 adoption of South Africa’s democratic constitution outlining a very clear framework for a liberal democracy came as a surprise to many who equated black African nationalism with socialist and Marxist strands. The triumph for liberalism was evidenced in the path chosen by Nelson Mandela’s African National Congress which relinquished its attachment to socialist principles in favour of a liberal-democratic polity. While liberalism’s institutional reach was broad, and its history long, it often represented a thin universalist creed that was fragile and limited. South Africa also had a weak liberal intellectual tradition without ever producing a radical variant. Its weaknesses were clear to many black intellectuals concerned with its proximity to whiteness and its lack of potential for radical, social, and egalitarian change. Yet despite liberalism’s lack of radical appeal some of the most interesting and fascinating interlocutors of liberal ideas and critics are within the tradition of black intellectual history itself. This dimension of liberalism in South Africa has been largely underwritten, neglected, or ignored.
Biography:
Dr Ayesha Omar is a British Academy International Fellow (2023) at the Department of Politics and International Studies (SOAS) and a Senior Lecturer in political theory in the Department of Political Studies (Wits). Whilst at SOAS she will be undertaking a 3-year research project on the Liberal Engagements of Black Intellectual History in South Africa. Ayesha’s research will be used in the development of an extensive book project for Cambridge University Press.
Ayesha has published various articles and book chapters in comparative political theory and intellectual history of South Africa. She has recently completed a monograph for the Cambridge University Press element series in Comparative Political Theory: The Pluralistic Frameworks of Ibn Rushd and Abdullahi Ahmed An-Na’im (forthcoming, October 2024), is co-editor on the two-volume series, the Cambridge History of African Political Thought, and the recently published volume Decolonisation: Revolution and Evolution with David Boucher (Wits University Press, 2023). Ayesha is an editor of Theoria: a Journal of Social and Political Theory and the secretary of the International Political Science Association (IPSA) political philosophy research committee. She is on the editorial board for the journal Global Intellectual History (T&F) and Politics (SAGE). In 2017, she received the Mail and Guardian 200 Young South African Award for her contributions to university teaching.
Public Lecture Convenor: Professor David Boucher
Please note that photos will be taken throughout the event. This event will be recorded and the recording may be added to social media or used for promotional purposes. If you do not wish to be recorded, please speak to one of the organisers before the event starts.
If you have any queries, then please let us know by emailing us at [email protected]
~~~~~~~~~~~
Diogelu Data:
Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, rydych yn rhoi caniatâd i ni brosesu eich data. Mae gennych yr hawl i newid eich meddwl a gwrthod rhoi eich caniatâd i ni brosesu eich data ar unrhyw adeg (cysylltwch â [email protected]).
Bydd Prifysgol Caerdydd yn cadw’r wybodaeth a ddarperir gennych yn unol â Pholisi Diogelu Data y Brifysgol (https://www.cardiff.ac.uk/cy/public-information/policies-and-procedures/data-protection). Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i roi’r newyddion diweddaraf i chi cyn y digwyddiad ac i hwyluso'ch profiad. Ar ôl y digwyddiad, byddwn hefyd yn cysylltu â chi i gael eich adborth am eich profiad o’r digwyddiad (nid oes rhaid i chi lenwi’r arolwg adborth).
Data Protection:
By registering for this event you are providing us with consent to process your data. You have the right to withdraw your consent to the processing at any time (please contact [email protected]).
The information provided by you will be held by Cardiff University in accordance with the University's Data Protection Policy. We will use this information to provide you with updates prior to the event and to facilitate your event experience. Following the event we will also contact you to seek feedback about your experience of the event (response to the feedback survey is optional).
Where is it happening?
Cardiff University School of Law and Politics, Museum Avenue, Cardiff, United KingdomEvent Location & Nearby Stays:
GBP 0.00