Noson Agored SA1 Abertawe Y Drindod Dewi Sant, 4ydd Gorffenaf 2024
Schedule
Thu Jul 04 2024 at 04:00 pm to 06:00 pm
Location
UWTSD Waterfront Campus | Swansea, WA
About this Event
Ymunwch â ni am ein Noson Agored nesaf a dysgu rhagor am ein dewis eang o raddau.
Mae meysydd pwnc yn y digwyddiad hwn yn cynnwys:
Cyfrifeg a Chyllid | Peirianneg Fodurol, Fecanyddol a Thrydanol | Busnes a Rheolaeth | Cyfrifiadura | Peirianneg Sifil a Phensaernïaeth | Amgylchedd, Ynni a Chynaliadwyedd | Ffilm, y Cyfryngau ac Animeiddio | Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Lletygarwch, Hamdden, a Thwristiaeth | Y Gyfraith, Troseddeg a Phlismona | Seicoleg a Chwnsela | Addysgu, Addysg, a Gwaith Ieuenctid
Mae mynychu Diwrnod Agored yn PCYDSS yn cynnig cyfle i chi ddod i’n nabod, gweld ai ni yw’r ffit orau i chi, ac archwilio’r ddinas a ddaw’n gartref i chi. Mewn diwrnod agored, cewch gyfle i gwrdd â’r darlithwyr a fydd yn eich addysgu, ac archwilio’r cyfleusterau a’r mannau dysgu a fydd yn allweddol i’r cwrs rydych wedi’i ddewis.
Dysgwch ragor am ble byddwch yn byw drwy glywed oddi wrth ein timau llety, a dysgwch ragor am yr opsiynau llety a fydd ar gael i chi. Siaradwch â myfyrwyr presennol i ddysgu am y lleoedd gorau i gymdeithasu wrth i chi wneud Abertawe yn gartref i chi.
Yn bwysicaf oll, cewch atebion i’r cwestiynau sy’n bwysig i chi.
Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o’n graddau Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth, Ffilm a Theledu, neu Dechnoleg Cerddoriaeth Greadigol, heblaw am BA Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth, archebwch drwy ein Digwyddiad Diwrnod Agored Coleg Celf Abertawe
Where is it happening?
UWTSD Waterfront Campus, Island Road, Swansea, United KingdomEvent Location & Nearby Stays: