Noson Agored Coleg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant 4ydd Gorffenaf 2024
Schedule
Thu Jul 04 2024 at 04:00 pm to 06:00 pm
UTC+01:00Location
Swansea College of Art, UWTSD | Swansea, WA
![Noson Agored Coleg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant 4ydd Gorffenaf 2024](https://cdn.happeningnext.com/events5/banners/6d63695c376fb7faf0f3526cd3f3809acbc996fd8f863414e18c7dd5e1c2dd8e-rimg-w1200-h799-dc5e482e-gmir.jpg?v=1716391716)
About this Event
Ymunwch â ni ar gyfer ein Noson Agored nesaf i ddarganfod mwy am ein hystod eang o raddau Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth israddedig ac ôl-raddedig.
- Ewch ar daith o gwmpas ein stiwdios a’n gweithdai pwrpasol.
- Dewch i gwrdd â’n darlithwyr a sgwrsio â’n myfyrwyr.
- Darganfyddwch pam y cawsom ein rhestru mewn safleoedd mor dda yn nhablau cynghrair 2024 y Guardian.
Ffasiwn a Thecstilau: 1af yng Nghymru a 3ydd yn y DU / Cynhyrchu Ffilm a Ffotograffiaeth: 1af yng Nghymru a 4ydd yn y DU / Dylunio Graffig: 1af yng Nghymru ac 11eg yn y DU / Celf Gain: 1af yng Nghymru ac 21ain yn y DU
Mae’r pynciau yn y digwyddiad hwn yn cynnwys:
Celf a Dylunio Sylfaen | BA Ffotograffiaeth Ddogfennol a Gweithredaeth Weledol | BA Crefftau Dylunio: Gwydr, Cerameg a Gemwaith | BA Ffilm a Theledu | BA Celf Gain | BA Dylunio Graffig | BA Darlunio | BA Technoleg Cerddoriaeth Greadigol | BA Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau | BA /BSc Dylunio Cynnyrch a Dodrefn | BA Patrymau Arwyneb a Thecstilau | Portffolio Ôl-raddedig.
Os oes gennych ddiddordeb mewn BA Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth, archebwch drwy ein Digwyddiad Diwrnod Agored SA1
Mae mynychu Diwrnod Agored yn PCYDSS yn cynnig cyfle i chi ddod i’n nabod, gweld ai ni yw’r ffit orau i chi, ac archwilio’r ddinas a ddaw’n gartref i chi. Mewn diwrnod agored, cewch gyfle i gwrdd â’r darlithwyr a fydd yn eich addysgu, ac archwilio’r cyfleusterau a’r mannau dysgu a fydd yn allweddol i’r cwrs rydych wedi’i ddewis.
Dysgwch ragor am ble byddwch yn byw drwy glywed oddi wrth ein timau llety, a dysgwch ragor am yr opsiynau llety a fydd ar gael i chi. Siaradwch â myfyrwyr presennol i ddysgu am y lleoedd gorau i gymdeithasu wrth i chi wneud Abertawe yn gartref i chi.
Yn bwysicaf oll, cewch atebion i’r cwestiynau sy’n bwysig i chi.
Where is it happening?
Swansea College of Art, UWTSD, Alexandra Road, Swansea, United KingdomEvent Location & Nearby Stays:
![University of Wales Trinity Saint David](https://cdn.happeningnext.com/events7/banners/b624f4e304b7554bed389728dfe0440ac4cf5a89b4c8494aa0952bb7c5ef5a1f-rimg-w400-h400-gmir.png?v=1697865277)