Mynd i'r afael â'r bylchau sgiliau / Addressing the skills gaps
Schedule
Tue Nov 19 2024 at 09:00 am to 01:00 pm
UTC+00:00Location
sbarc|spark, room 6.35 | Cardiff, WA
About this Event
Bydd y digwyddiad Rhwydwaith Arloesi Prifysgol Caerdydd hwn yn trin a thrafod y cyfleoedd sydd ar gael i gydweithio er mwyn gwella sgiliau’r gweithlu yng Nghymru.
Fel prifysgol fwyaf Cymru, rydyn ni’n cefnogi adferiad sydd wedi’i arwain gan sgiliau, yn dilyn COVID-19.
Rydyn ni’n cydweithio â sefydliadau i fynd i'r afael â'u gofynion o ran sgiliau, gan ddatblygu atebion sy'n rhoi’r sgiliau i’r gweithle fodloni gofynion sy’n esblygu ar gyfer amrywiaeth o sectorau a diwydiannau.
Dyma rai o’r ffyrdd rydyn ni’n gweithio gyda sefydliadau;
· Cynnig myfyrwyr a graddedigion dawnus sy'n meddu ar safbwyntiau a sgiliau newydd ac arbenigedd cyfredol yn eu meysydd priodol.
· Rhaglenni datblygiad proffesiynol parhaus wedi'u teilwra (DPP) sy'n mynd i'r afael â bylchau sgiliau penodol ac anghenion y diwydiant.
· Cydweithio ar brosiectau a mentrau sy'n dylanwadu ar ein harbenigedd academaidd a'n cyfleusterau ymchwil i gael ateb ac i wella sgiliau’r gweithlu.
Byddwn ni’n cynnal sesiwn addysgiadol a difyr ar 19 Tachwedd, a fydd yn dod â sefydliadau ynghyd i rwydweithio ac i gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd hyn.
Yn y sesiwn hon bydd cyfres o gyflwyniadau, gan gynnwys:
· National Centre for Universities and Business (NCUB)
. Tîm Datblygu Proffesiynol Parhaus Prifysgol Caerdydd
. Partneriaethau trosglwyddo gwybodaeth
· Tîm Dyfodol Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
· Astudiaeth Achos Sefydliadol - Genletics
· Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
Ymunwch â ni am sesiwn ryngweithiol a darganfod y cyfleoedd sydd ar gael i chi, i wella eich sgiliau gweithlu!
*************************************************************************************************************
This Cardiff University Innovation Network event will explore the opportunities for working together on enhancing workforce skills in Wales.
As Wales’ biggest university, we are supporting a skills-led recovery from the COVID-19 pandemic.
We collaborate with organisations to address their skill requirements, developing solutions that equip the workforce to meet the evolving demands of a variety of sectors and industries.
Some of the ways in which we work with organisations include;
- Providing access to our pool of talented students and graduates who bring fresh perspectives, new skills and current expertise in their respective fields.
- Tailored continuing professional development (CPD) programmes that address specific skill gaps and industry needs.
- Collaborating on projects and initiatives that leverage our academic expertise and research facilities to create a solution and upskill the workforce.
We will be hosting an informative and engaging session on November 19th, which will bring organisations together to network and find out more about these opportunities.
In this session, there will be a series of talks including;
- National Centre for Universities and Business (NCUB)
- Cardiff Capital Region
- Cardiff University Continuing Professional Development Team
- Knowledge Transfer Partnerships
- Cardiff University Student Futures Team
- Organisation Case Study - Genletics
Join us for an interactive session and discover the opportunities available to you, to improve your workforce skills!
Where is it happening?
sbarc|spark, room 6.35, Maindy Road, Cardiff, United KingdomEvent Location & Nearby Stays:
USD 0.00