Darlith Gyhoeddus | Julian Ayres, Public Lecture
Schedule
Thu Dec 05 2024 at 05:30 pm to 07:30 pm
UTC+00:00Location
Wrexham University | Wrexham, WA
About this Event
English below
Tyllau Ymochel: Deall Dycnwch a Gwytnwch
Julian Ayres <h4>Uwch-ddarlithydd mewn Addysg </h4>
Mae hyfforddiant gwytnwch wedi’i roi ar waith yn llwyddiannus mewn amryfal leoliadau grŵp, yn cynnwys nyrsio, y lluoedd arfog a chwaraeon elît. Mae elfennau hollbwysig yr hyfforddiant hwn yn cynnwys cydweithredu, trafodaethau strwythuredig ar gyfer cyd-ddealltwriaeth a sesiynau myfyrio ystyrlon ar gyfer unigolion a grwpiau. Gwelir bod yr elfennau hyn yn cynorthwyo i gadw staff, yn helpu unigolion i oresgyn adfyd personol ac yn lleihau’r risg sydd ynghlwm wrth orludded.
Mewn cyd-destun milwrol, mae’r term “twll ymochel” yn cyfeirio at dwll bach a ddefnyddir gan filwyr fel lloches wrth ymladd. Y tu hwnt i’r ystyr hwn, mae “twll ymochel” hefyd yn symbol o’r diogelwch a’r cydsafiad a deimlwn pan gawn ein cefnogi gan eraill mewn sefyllfaoedd heriol. Mewn hyfforddiant gwytnwch, mae meithrin y ‘meddylfryd twll ymochel’ hwn ymhlith y cyfranogwyr yn pwysleisio pa mor bwysig yw cymorth ac ymddiriedaeth ar y cyd – rhywbeth sy’n hollbwysig ar gyfer chwilio’r ffordd trwy adfyd gyda’n gilydd.
Yn aml, ni chaiff hyfforddiant gwytnwch ei ddefnyddio’n effeithiol ar draws amrywiaeth o sectorau cyflogaeth. Tueddir i ganolbwyntio ar nodweddion unigolyddol y persona ‘dygn’, a ystyrir fel y brif ffordd o oresgyn heriau mewn rolau academaidd a phroffesiynol. Fodd bynnag, bydd y ddarlith hon yn herio’r syniad hwnnw trwy drafod y strwythurau ehangach sy’n cyfrannu at wytnwch, gan ddefnyddio ymchwil ddoethurol sy’n canolbwyntio ar ddefnyddio hyfforddiant gwytnwch, cylchoedd dysgu myfyriol a deialog ar y cyd.
Mae’r gwaith ymchwil hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd yr arferion hyn o ran meithrin gwytnwch mewn amrywiol leoliadau lle ceir deialog ar y cyd. Trwy archwilio astudiaethau achos yn ymwneud ag unigolion a sefydliadau gwydn, bydd y ddarlith yn dangos sut y gall amgylcheddau cydweithredol ac arferion myfyriol strwythuredig wella gallu staff a myfyrwyr fel ei gilydd i chwilio’r ffordd trwy adfyd a ffynnu yn eu rolau.
AM Y SIARADWR
Cwblhaodd Julian ei astudiaethau doethurol yn 2024, gyda thesis yn dwyn y teitl “Evaluating the Impact of Resilience Training on Retention, Attendance, and Graduate Success in Post-Compulsory Initial Teacher Education: A Mixed-Methods Study”. Oddi allan i’r byd addysg, mae Julian yn aelod o’r 100 Marathon Club ac mae’n brofiadol o ran rhedeg marathonau eithaf a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n rhoi prawf ar wytnwch corfforol.
“Yn y sesiwn hon, byddaf yn helpu i arddangos astudiaethau achos yn ymwneud â’m dau ddiddordeb, yn ogystal â’r gwersi y gallwn eu dysgu gan feysydd eraill er mwyn helpu i wella ein lleoliad.”
_ ________________________________________________________________________________________________
Foxholes: Understanding Grit and Resilience
Julian Ayres <h4>Senior Lecturer in Education </h4>
Resilience training has been effectively implemented in various group settings, including nursing, the armed forces, and elite sports. Key elements of this training include collaboration, structured discussions for mutual understanding, and meaningful individual and group reflection. These components have been shown to enhance retention, help individuals overcome personal adversity, and lower the risk of burnout.
In military contexts, the term "foxhole" refers to a small, dug-out position used by soldiers for protection during combat. Beyond its physical meaning, "foxhole" also symbolises the sense of safety and solidarity one experiences when supported by others in challenging situations. In resilience training, fostering this ‘foxhole mentality’ among participants emphasises the importance of mutual support and trust, which is crucial for navigating adversity together.
Across a range of employment sectors, resilience training is often ineffectively utilised. The focus tends to be on the individualistic traits of the ‘gritty’ persona, which is seen as the primary tool for overcoming challenges in academic and professional roles. However, this lecture will challenge that notion by exploring the broader structures that contribute to resilience, drawing on doctoral research focused on the use of resilience training, reflective learning circles, and collective dialogue.
This research highlights the importance of these practices in fostering resilience across various settings where collective dialogue occurs. By examining case studies of resilient individuals and organisations, the lecture will demonstrate how collaborative environments and structured reflective practices can enhance the ability of staff and students alike to navigate adversity and thrive in their roles.
ABOUT THE SPEAKER
Julian completed his doctoral studies in 2024, with a thesis titled “Evaluating the Impact of Resilience Training on Retention, Attendance, and Graduate Success in Post-Compulsory Initial Teacher Education: A Mixed-Methods Study”. Outside of education, Julian is a member of the 100 marathon club and experienced ultra-marathon and endurance challenge athlete.
“In this session, I will help to showcase case studies from both of my interests and the lessons we can learn from other areas to help enhance our setting .”
Where is it happening?
Wrexham University, Mold Road, Wrexham, United KingdomEvent Location & Nearby Stays:
GBP 0.00