Cynhadledd i Ddoctoriaid: Rhwydweithio ac Addysgu i Gynnyddu (DRAIG)
Schedule
Sat, 20 Jun, 2026 at 08:00 am to Sun, 21 Jun, 2026 at 03:45 pm
UTC+01:00Location
Stadiwm Parc y Scarlets | Llanelli, WA
About this Event
For information in English, please click on the following link:- https://www.eventbrite.co.uk/e/1978126606931?aff=oddtdtcreator
Ymunwch â ni ym Mharc y Scarlets am benwythnos o weithdau, prif siaradwyr, cyflwyniadau cyffrous a chyfraniadau gan arbenigwyr meddygol ysbrydoledig. Bydd y digwyddiad yn cynnwys:
• Siaradwyr arbenigol: Cyfle i glywed oddi wrth glinigwyr a gweithwyr gofal iechyd o wahanol arbenigedd a chefndir
• Cyflwyniadau llafar: Dysgwch am brosiectau ymchwil arloesol, prosiectau gwella ansawdd ac astudiaethau achos
• Arddangosfa posteri: Ymchwiliwch i'r prosiectau a mewnwelidiadau clinigol diweddaraf gan feddygon preswyl a meddygon dan hyfforddiant
• Cyfleoedd rhwydweithio: Cysylltwch â chydweithwyr, mentoriaid ac arbenigwyr yn eu maes mewn lleoliad sy’n ysbyrdoli
• Gweithdai: Gweithdai rhyngweithiol ac addysgiadol i gefnogi eich taith broffesiynol.
Mae ceisiadau cyflwyniadau crynodebau bellach ar agor Defnyddiwch y ddolen hon ar gyfer cyflwyno eich cronodebau am ystyriaeth: https://forms.office.com/e/7bBL6JBsHw
Fformat a Hyd y Crynodeb
• Ni ddylai eich crynodeb fod yn fwy na 300 o eiriau
• Dylai cyflwyniadau fod yn gryno, yn glir ac yn strwythuredig
• Penawdau a awgrymir (lle bo hynny'n briodol):
- Cefndir
- Dull
- Canlyniadau
- Casgliad
. Gwnewch yn siŵr bod eich crynodeb yn disgrifio'n glir eich rôl a'ch cyfraniad i'r gwaith.
Fformat Cyflwyniad
• Caiff pob crynodeb a dderbynnir ei gyflwyno fel poster os dderbynnir eich crynodeb
Caiff nifer dethol o grynodebau eu rhestru ar gyfer cyflwyniad llafar
• Cysylltir ag awduron a ddewisir ar gyfer cyflwyniad llafar ymlaen llaw, a gallant ddewis derbyn y cyfle hwn
• Anogwn ni I chi argraffu eich posteri ar ffurf A1
Sylwch mai’r arfer yw y cysylltir cyflwyniadau llafar gyda sgorio uwch mewn ceisiadau hyfforddiant arbenigol, a bydd dewis yn seiliedig ar ansawdd a pherthnasedd y crynodeb gan ein panel sy’n cynnwys Ymgynghorwyr Clinigol a Meddygon Teulu. Gwobrwywyd y poster a’r cyflwyniadau llafar gorau i nifer fechan o ymgeiswyr eithriadol.
Statws y Gynhadledd Mae Cynhadledd DRAIG ar agor i gynrychiolwyr o bob rhan o Gymru a bydd yn cael ei gydnabod fel cynhadledd ar lefel genedlaethol, a all gefnogi tystiolaeth portffolio ar gyfer ceisiadau hyfforddi yn y dyfodol.
Rydym yn eich annog i gyflwyno eich gwaith a manteisio ar y cyfle hwn i gyflwyno eich cyflawniadau, ennill profiad o gyflwyno mewn cynhadledd, a chryfhau eich ceisiadau hyfforddi.
Dyddiad cau cyflwyno: 30 Ebrill 2026
Mae’n orfodol i o leiaf un o'r awduron sy'n llwyddiant y neu gais brynu tocyn er mwyn cyflwyno yn y gynhadledd.
Byddwn yn cynnal digwyddiad ffurfiol opsiynol ar nos Sadwrn 20 Mehefin, a fydd yn cynnwys pryd eistedd tair cwrs ac adloniant. Bydd hyn ar gael i ddeiliaid tocynnau’r gynhadledd am dâl ychwanegol. Dewiswch docynnau ar gyfer y digwyddiad gyda’r nos fel ychwanegiad.
Dydd Sadwrn 20 Mehefin
🕑: 08:00 AM - 08:45 AM
Cyrraedd a Chofrestru
🕑: 08:45 AM - 09:00 AM
Croeso, diogelwch tân, amlinelliad a strwythur y dydd
Host: Mr Mark Henwood
Info: Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
🕑: 09:00 AM - 09:40 AM
Prif siaradwr
Host: Mr Edward Brown
Info: Llawfeddyg Fesur, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
🕑: 09:40 AM - 10:10 AM
Sesiwn gyflwyniad
Host: Vox Coaching
🕑: 10:10 AM - 10:55 AM
Cyflwyno posteri
Info: Cyflwyno posteri, 3 x 15munud
🕑: 10:55 AM - 11:15 AM
Egwyl a lluniaeth
🕑: 11:15 AM - 12:25 PM
Gweithdai - bore
Info: I gynnwys:- Gwella Ansawdd, Arweinyddiaeth a Rheolaeth a Sgiliau cyfweliad
🕑: 12:25 PM - 01:25 PM
Cinio & rhwydweithio
🕑: 01:25 PM - 02:05 PM
Prif siaradwr
Host: Athro Tracy Daszkiewicz
Info: Llywydd Cyfadran Iechyd y Cyhoedd
🕑: 02:05 PM - 03:15 PM
Gweithdai - prynhawn
Info: I gynnwys:- Gwella Ansawdd, Arweinyddiaeth a Rheolaeth a Sgiliau cyfweliad
🕑: 03:15 PM - 03:35 PM
Egwyl a lluniaeth
🕑: 03:35 PM - 04:15 PM
Prif siaradwr
Host: Athro Philip Banfield
Info: Obstetrydd a Gynaecolegydd Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Besti Cadwaladr
🕑: 04:15 PM - 04:30 PM
Sylwadau i gloi
Host: Dr Jon Morris
Info: Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Meddygol
🕑: 07:00 PM
Digwyddiad ffurfiol gyda’r nos (opsiynol)
Dydd Sul 21 Mehefin
🕑: 09:00 AM - 09:30 AM
Cyrraedd a Chofrestru
🕑: 09:30 AM - 10:30 AM
Prif siaradwr
Host: Dr Brendan Healy
Info: Ymgynghorydd mewn Microbioleg ac Iechyd Trosglwyddadwy, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
🕑: 10:30 AM - 11:15 AM
Cyflwyno posteri
Info: Cyflwyno posteri, 3 x 15munud
🕑: 11:15 AM - 11:35 AM
Egwyl a lluniaeth
🕑: 11:35 AM - 12:35 PM
Gweithdai - y bore
Info: I gynnwys:-Llwybrau amgen, Paratoi ar gyfer ymchwil ac arloesi, Llwyddo yr arholiad MSRA, Sgiliau ar gyfer addysgu
🕑: 12:35 PM - 01:35 PM
Cinio & rhwydweithio
🕑: 01:35 PM - 02:35 PM
Gweithdau - y prynhawn
Info: I gynnwys:-Llwybrau amgen, Paratoi ar gyfer ymchwil ac arloesi, Llwyddo yr arholiad MSRA, Sgiliau ar gyfer addysgu
🕑: 02:35 PM - 03:30 PM
Prif siaradwr
Host: Athro Olwen Williams OBE
Info: Ymgynghorydd mewn Iechyd Rhywiol a Meddygaeth HIV
🕑: 03:30 PM - 03:45 PM
Sylwadau i gloi
Host: Dr Jon Morris
Info: Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Meddygol
Where is it happening?
Stadiwm Parc y Scarlets, Parc Pemberton, Llanelli, United KingdomEvent Location & Nearby Stays:
GBP 35.00 to GBP 150.00








