Cynhadledd Datblygu Menywod Entrepreneuraidd
Schedule
Thu May 09 2024 at 09:30 am to 05:00 pm
Location
University of South Wales - Newport | Newport, WA
About this Event
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn parhau â'i hymrwymiad i alluogi mwy o fenywod yn Ne Cymru i ddod yn fosys arnyn nhw eu hunain.
Am y 3 blynedd diwethaf rydym wedi cynnal rhaglenni datblygu entrepreneuriaeth pwrpasol, sy’n agored i fenywod ar draws De Cymru, i’w helpu i gychwyn eu syniad busnes newydd.
Mae'r fenter wedi'i hariannu gan NatWest ac mae eisoes wedi arwain at dros 55 o fusnesau newydd.
I ddathlu llwyddiant trydedd flwyddyn y rhaglen rydym yn cynnal digwyddiad dathlu ar ddydd Iau 9fed Mai ar ein campws Casnewydd PDC.
Mae’r rhaglen Datblygu Menywod Entrepreneuraidd yn cael ei chyflwyno gan Startup Stiwdio Sefydlu i helpu unrhyw fenywod a phobl anneuaidd ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd i oresgyn rhwystrau a symud ymlaen yn y dirwedd cychwyn busnes.
(Mae manylion y rhaglen yma)
I arddangos carfan eleni, dathlu eu llwyddiannau a thaflu goleuni ar enghreifftiau ysbrydoledig o entrepreneuriaeth benywaidd yn y rhanbarth, rydym yn eich gwahodd i fynychu ein diwrnod o ddathlu entrepreneuriaeth menywod.
Ymhlith yr uchafbwyntiau mae:
• Kellie Beirne, Cyfarwyddwr Rhaglen Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
• Caroline Thompson, Cyfarwyddwr Menter Rhanbarthol, NatWest
• Carol Hall a Rachel Ashley, Merched Angylion Cymru, Banc Datblygu Cymru
• Dewch i gwrdd â rhai o'n hentrepreneuriaid ein hunain yn ein hardal arddangos masnachwyr.
…A mwy o siaradwyr i'w cyhoeddi'n fuan.
Rydym yn chwilio am amlinelliad o'ch syniad busnes neu fusnes cyfredol i'n galluogi i ddarparu cymorth busnes wedi'i deilwra a thargedu ein digwyddiadau i'ch sector creadigol penodol. Sylwch, wrth gymryd rhan yn y rhaglen hon a'i gweithgareddau, eich bod yn rhoi caniatâd i Brifysgol De Cymru (PDC) a Sefydliadau partner rannu eich data personol at ddibenion monitro ac adrodd. Rydych hefyd yn rhoi caniatâd i Brifysgol De Cymru ddefnyddio eich data personol at ddibenion marchnata ac adrodd.
Caniatâd GDPR a Data
Bydd gwybodaeth a roddwch yn cael ei chadw yn unol â GDPR, Deddf Diogelu Data 2018, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a'n Datganiad Preifatrwydd personol sydd ar gael ar ein gwefan. Rwy'n deall y bydd gwybodaeth am bresenoldeb yn cael ei rhannu â chydweithwyr (Banc Datblygu Cymru) at ddibenion monitro a gwerthuso effaith yn unig.
Gallwch weld ein Datganiad Preifatrwydd yma
Gallwch weld ein Hysbysiad Preifatrwydd Eventbrite yma
Where is it happening?
University of South Wales - Newport, Usk Way, Newport, United KingdomEvent Location & Nearby Stays:
GBP 0.00