Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl - Cymraeg

Schedule

Thu Oct 31 2024 at 09:30 am to 05:00 pm

Location

National Dance Company Wales | Cardiff, WA

Advertisement
Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl - Cymraeg
About this Event

Mae CULT Cymru yn rhaglen sgiliau a gefnogir trwy Cronfa Ddysgu Undeb Cymru Llywodraeth Cymru. CULT Cymru is a skills programme supported through the Welsh Government's Union Wales Learning Fund. *


**Pris masnachol y cwrs - £198

Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl - Cymraeg


Iaith y cwrs - Cymraeg


Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl - Cwrs 2 ddiwrnodDydd Iau 31.10.24 & Dydd Gwener 01.11.24

Bydd un person mewn pedwar yn profi rhyw fath o anhwylder iechyd meddwl mewn blwyddyn. Mae Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) yn gallu helpu gwella bywydau.

Mae cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru yn dysgu oedolion sut i ddarparu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i 'gwsmeriaid', ffrindiau, teuluoedd a chyd-weithwyr

Bydd y cwrs yn cael ei cynnal dros dau dydd

Rhybudd: Mae'r cwrs yn ymwneud â pynciau sensitif gall cael effaith negyddol ar rhai sy'n mynychu. Byddwn yn ddiolchgar petae chi'n cysylltu â [email protected] os ydych am trafod hyn o flaen llaw.

Nod:

Nod y cwrs dau ddiwrnod yma yw i wella dealltwriaeth iechyd meddwl ac i helpu unigolion o fewn y diwydiannau creadigol i adnabod arwyddion a symptomau rhywun gyda anhwylderau iechyd meddwl. Byddwn yn darparu deunydd ymarferol. Noder nid yw cynnwys y cwrs wedi ei deilwra ar gyfer y diwydiant.

Amcanion:

Nid yw'r cwrs yma yn eich hyfforddi i fod yn therapydd, cwnselydd neu berson proffesiynol iechyd meddwl ond bydd yn cynyddu eich hyder wrth weithio gydag oedolion sy'n agored i niwed.

Bydd yn eich dysgu sut i:

  • roi cymorth cychwynnol i rywun sy’n wynebu problemau iechyd meddwl
  • ymdrin â sefyllfa o argyfwng neu’r arwyddion cyntaf bod rhywun yn datblygu salwch meddwl
  • gyfeirio pobl at gymorth priodol.

Tystysgrif:

Bydd mynychwyr sy'n cwblhau'r ddau ddiwrnod llawn yn derbyn tystysgrif presenoldeb gan Mental Health First Aid Wales.




Hyfforddwraig/Trainer - Bethan Roberts

Mae Bethan wedi bod yn hyfforddwr cymorth cyntaf iechyd meddwl ers 2008, ac mae hi 'n darparu cyrsiau i amrywiaeth o sefydliadau yn rheolaidd ar draws y sector cyhoeddus, preifat a thrydydd. Mae'n diwtor ar iechyd meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae wedi darparu hyfforddiant ar iechyd meddwl ar draws gwahanol adrannau'r gwasanaeth sifil ym Mhrydain. Mae Bethan hefyd yn dysgu ymwybyddiaeth ofalgar ac yn hyfforddwr ac athro ar gyfer canolfan ymchwil ac ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar Prifysgol Bangor


CULT CYMRU

Mae gweithdai CULT Cymru yn cael eu darparu mewn amgylchedd cyfeillgar ac anfygythiol ble bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i ofyn cwestiynau a chodi materion yn ystod y dydd.

CULT Cymru workshops are delivered in a friendly and non-threatening environment where participants will have the opportunity to ask questions and raise issues during the day.

Polisi Canslo ac Ad-daliadau:

Bydd ad-daliad llawn yn cael ei rhoi i gynrychiolwyr sy’n canslo o leiaf bythefnos cyn y digwyddiad. O fewn y bythefnos cyn y digwyddiad, oni bai ein bod ni’n gallu dod o hyd i rywun arall i gymryd eich lle, ni fyddem yn gallu rhoi ad-daliad. Gadewch i ni wybod cyn gynted â phosib os na fyddwch yn gallu mynychu.

Cancellation and Refunds Policy

A full refund will be issued to delegates who cancel at least 2 weeks prior to the event. Delegates who cancel within the 2 week period will not be eligible for a refund unless we are able to find someone else to take their place. Please let us know as soon as possible if you find you're no longer able to attend the workshop.

Diogelu Data /Data Protection

Darllennwch ein Polisi Preifarwydd yma

Read our Privacy Statement here

Advertisement

Where is it happening?

National Dance Company Wales, Pierhead Street, Cardiff, United Kingdom

Event Location & Nearby Stays:

Tickets

GBP 25.00 to GBP 50.00

CULT Cymru (BECTU, Equity, MU, WGG)

Host or Publisher CULT Cymru (BECTU, Equity, MU, WGG)

It's more fun with friends. Share with friends