Bird Language Workshop/ Gweithdy Iaith yr Adar
Schedule
Sat, 29 Mar, 2025 at 10:00 am
UTC+00:00Location
National slate Museum | Bangor, WA
Want to learn how to find more secretive and rare wildlife like roosting owls and preying sparrowhawks?
Do you know what the link is between ambulances/fire engines and birds? Random question right? But very relevant
Book here: https://one-wild-life-coach-wales.square.site/product/bird-language-29th-march/25?cp=true&sa=true&sbp=false&q=false
Before we stepped away from our close connection with the wild, humans and birds understood each other perfectly. Birds would help humans to locate food and water, alert them to danger. In acknowledgement, humans would honour the land to ensure the birds had what they needed to thrive.
We still understand this language on a subconscious level. Why else is bird song so pleasing to us? When we start to remember their language, our time in nature can become so much richer.
For children, their hide and seek skills improve exponentially. For nature enthusiasts, birds will lead you to all sorts of interesting wildlife (if you get on their good side). For all of us, learning bird language can trigger a deep remembering in us, of skills we all once possessed but lost long ago. As a result, tuning into birds can help to support our wellbeing, encourage us to nurture the homes of our feathered family as we did before and help us to remember who we are.
In this half day workshop, you will be led by Lauren, an animal behaviourist, ecologist and experienced nature connection facilitator. You will learn the different types of bird calls and what they mean. how to tell the useful birds from the trickster birds, the “shapes” of the calls and what they tell you and the pace of the language.
The day will be spent outside. Although there will be some walking, a great deal of understanding bird language comes in mindful awareness. We will be going slowly and using sit spots. You will probably get cold so please bring things to keep warm. I recommend a flask of tea, lots of layers, a sit mat and a hot water bottle if needed.
Further details such as meeting location will be sent on booking.
To book: https://one-wild-life-coach-wales.square.site/product/bird-language-29th-march/25?cp=true&sa=true&sbp=false&q=false
Ydych chi erioed wedi meddwl beth mae'r adar gwyllt yn ei ddweud?
Eisiau dod o hyd i fywyd gwyllt swil fel tylluanod neu gudyllod glas?
Ydych chi'n gwybod beth yw'r cysylltiad rhwng ambiwlansau/peiriannau tân ac adar?
Cyn i ni golli ein cysylltiad agos â'r gwyllt, arferai bodau dynol ac adar ddeall ei gilydd i’r dim. Byddai adar yn helpu bodau dynol i ddod o hyd i fwyd a dŵr, gan eu rhybuddio am beryglon. Er mwyn diolch am hyn, byddai bodau dynol yn parchu’r tir gan sicrhau bod gan yr adar yr hyn roedd ei angen arnyn nhw i ffynnu.
Rydyn ni’n dal i ddeall yr iaith hon ar lefel yr isymwybod. Pam arall mae cân yr adar mor hyfryd i ni? Pan ddechreuwn gofio eu hiaith, gall ein hamser ym myd natur fod yn llawer mwy cyfoethog.
I blant, mae eu sgiliau cuddio a chwilio yn gwella hyd yn oed yn fwy. Ar gyfer selogion natur, bydd adar yn eich arwain at bob math o fywyd gwyllt diddorol (os byddan nhw’n eich hoffi chi). I bob un ohonon ni, gall dysgu iaith yr adar ddeffro’r hen gof sydd ynon ni o sgiliau roedden ni i gyd yn eu meddu ar un adeg ond a gollwyd amser maith yn ôl. O ganlyniad, gall tiwnio i mewn i gân yr adar helpu i gefnogi ein lles, ein hannog i feithrin cartrefi ein teulu pluog fel yr oedden ni’n arfer ei wneud, a'n helpu i gofio pwy ydyn ni.
Yn y gweithdy hanner diwrnod hwn, cewch eich arwain gan Lauren, ymddygiwr anifeiliaid, ecolegydd a hwylusydd cysylltiad natur profiadol. Byddwch yn dysgu’r canlynol:
• y gwahanol fathau o alwadau adar a beth maen nhw'n ei olygu;
• sut i wahaniaethu rhwng yr adar defnyddiol a’r rhai twyllodrus;
• ‘siapiau’ y galwadau; ac
• yr hyn maen nhw'n ei ddweud wrthych chi a chyflymder yr iaith.
Bydd y diwrnod yn cael ei dreulio y tu allan yn yr awyr agored. Er y bydd rhywfaint o gerdded, byddwn yn dod i ddeall iaith yr adar mewn ffordd ystyriol. Byddwn yn mynd yn araf ac yn defnyddio mannau eistedd. Mae'n debyg y byddwch chi'n mynd yn oer, felly dewch â phethau i'ch cadw'n gynnes. Dwi’n argymell eich bod yn dod â fflasg o de, llawer o haenau, mat eistedd, a photel dŵr poeth os oes angen.
Where is it happening?
National slate Museum, Padarn Country Park, Caernarfon, LL55 4, United Kingdom,Caernarfon, BangorEvent Location & Nearby Stays: